Yma, fe gewch chi weld cardiau fflach i'ch cynorthwyo i ddysgu'r geirfa cywir ar gyfer aelodau'r teulu. Gallwch glicio i gael y Cymraeg a'r Ffrangeg yn dangos yr un pryd, neu wrth ddad-glicio'r botwm 'Both Sides', gallwch weld dim ond y Cymraeg neu dim ond y Ffrangeg sy'n eich galluogi i brofi eich hunan. Wrth glicio ar y botwm sain ar dop y cardiau fflach, gallwch hefyd glywed yr ynganiad (pronunciation) Ffrangeg cywir. Yn olaf, wrth glicio ar 'Choose a Study Mode' gallwch eu hadolygu mewn amrywiaeth o ddulliau eraill hefyd - ymchwiliwch i weld beth sydd well gennych! :)
Cofiwch bod y berfau Avoir ac Etre yn bwysig iawn yn Ffrangeg. Mae Avoir yn golygu 'bod gyda' / 'cael' (yn Saesneg, 'to have') ac mae Etre yn golygu 'bod' (neu yn Saesneg, 'to be'). Yn y gêm yma, meddyliwch am ba un o'r 3 dewis yw'r un synhwyrol i fynd gyda'r ferf bob tro - cofiwch bod J'ai yn golygu 'Mae gen i', ac mae Je suis yn golygu 'Rwyf yn'!
Dyma gêm i'ch cynorthwyo i adolygu'r rheolau ar gyfer ansoddeiriau Ffrangeg. Darllenwch yr enw ar ddechrau pob cwestiwn a chofiwch feddwl yn ofalus pa ffurf o'r ansoddair (m./f.) sydd yn eisiau. Os ydych yn cael yr ateb yn gywir, fe gewch reoli'r llong ofod a saethu'r asteroidau! Pob hwyl!
Nodyn i'ch atgoffa o sut i ddarganfod y dudalen gywir ar Linguascope er mwyn adolygu a dysgu'r anifeiliaid anwes ar y cof.
1. Ewch at www.linguascope.com
2. Mewngofnodwch (cofiwch nad oes angen 123 ar ddiwedd y gyfrinair mwyach).
3. Cliciwch ar 'Elementary' ac yna ar 'houlala'.
4. Dewiswch 'Galaxie Trois' ac yna 'Planète ANIMAUX'.
5. Gallwch wneud y 'Présentation' i'ch atgoffa o'r anifeiliaid os hoffech, ac yna clicio ar y 'Jeux' i chwarae gemau i ymarfer a dysgu'r geirfa.
Amusez-vous bien! :-)
Un petit quiz!
Dyma gwis bach Ffrangeg i chi yn holi o ba wledydd mae gwahanol anifeiliaid yn dod. Beth am gymryd y cwis a gweld pa mor dda yw eich gwybodaeth o gynefinau gwahanol anifeiliaid?
Am ba anifail mae’r teitl uchod yn sôn tybed? Dwi’n siŵr eich bod yn medru gweld yr ateb yn hawdd! Beth am glicio ar y ddolen isod ac edrych ar yr erthygl sy’n cyd-fynd gyda’r teitl yma? Mae’n dod o safle newyddion ar gyfer disgyblion ysgol yn Ffrainc. Edrychwch trwy’r erthygl i weld os fedrwch chi ddarganfod yr atebion i’r cwestiynau o dan y llun. Mi fydd canmoliaeth i unrhyw un sy’n rhoi tro ar eu hateb. :)
1jour 1 actu - C'est qui, ce beau panda? Edrychwch yn gyntaf drwy’r erthygl gyfan:
1. Fedrwch chi ddarganfod o leiaf 5 gair yn yr erthygl sy’n hawdd i’w dyfalu am eu bod yn debyg iawn i’r Saesneg neu’r Gymraeg? Er enghraifft – la Chine = Tseina Paragraff agoriadol (mewn print bras):
2. Beth yw enwau Tseiniaidd y ddau banda?
3. Ar ba ddyddiad wnaeth y ddau ohonynt gyrraedd Ffrainc? Paragraff ‘Pourquoi en parle-t-on?’:
4. Beth yw eu hoedran?
5. Ym mha ardal o Ffrainc mae tref Loir-et-Cher, cartref newydd y pandas ?
6. Am ba mor hir mae’r llywodraeth Tseiniaidd wedi benthyg y pandas i Ffrainc ? Paragraff ‘Quel rapport avec ces deux pandas?’:
7. Sawl panda sydd ar ôl yn Tseina?
8. Mae'r erthygl yn esbonio bod pandas yn drysor cenedlaethol i Tseina. Sut mae dweud ‘trysor cenedlaethol’ yn Ffrangeg? Meddwl yn bellach...:
9. Os ydym yn galw rhywbeth yn ‘drysor cenedlaethol’, beth ydym ni’n feddwl wrth hynny?
10. Beth yw’n trysorau cenedlaethol yma yng Nghymru, yn eich barn chi?
Pob hwyl gyda’r chwilota, Blwyddyn 7!
Idiomau!
Idiom yw ffordd o ddweud rhywbeth nad yw'n cyfieithu'n llythrennol o un iaith i iaith arall. Esiampl yn Gymraeg fyddai 'Mae'n rhedeg gyda'i wynt yn ei ddwrn'. Nid yw 'He's running with the wind in his fist' yn gwneud unrhyw synnwyr yn Saesneg - byddai rhaid dweud 'He's running like the wind' yn lle. Dyma beth yw idiom, felly! Dyma ddolen i gyflwyniad am idiomau Ffrangeg - mae'r idiomau yma i gyd yn defnyddio 'AVOIR' o'u blaenau. :)
Dyma'r dudalen 'padlet' ar gyfer gadael eich post-its, 7E. Y dasg- Ysgrifennu paragraff sy'n disgrifio eich hunan mor fanwl â phosibl.
Edrychwch yn ofalus ar y post-it model, a defnyddiwch eich llyfrau i'ch cynorthwyo i ysgrifennu eich post-it eich hunan yn disgrifio eich hunan yn gywir.
Dechreuwch trwy deipio eich paragraff yn Word cyn dechrau yna cliciwch ddwy-waith (double-click) ar y wal isod a chopiwch eich paragraff o Word ar eich post-it ar y wal yma.
Ceisiwch ddefnyddio'r cysyllteiriau trefn wnaethom ddysgu o'r blaen i godi safon eich gwaith, os yn bosib - d'abord, ensuite, puis, en plus, après, finalement...
Gwiriwch ei fod yn gywir cyn gorffen - a gwnewch yn sicr eich bod wedi cynnwys eich enw cyntaf (a llythyren cyntaf eich cyfenw os oes angen), fel fy mod yn gwybod pwy sydd wedi ysgrifennu pa baragraff!
Allez-y! Rwy'n edrych ymlaen i ddarllen eich paragraffau! :o)
Dyma'r dyn geirfa i'ch cynorthwyo gyda syniadau ar gyfer dysgu eich geirfa ar gyfer y profion sillafu. Profwch y gwahanol dechnegau - pa un sy'n gweithio orau i chi tybed? Fedrwch chi wella ar eich marciau diweddar gan ddefnyddio techneg gwahanol i'r arfer?
Dyma ddolen i'ch arwain at eich gwaith sgyrsio diweddar blwyddyn 7 - acenion gwych ac ymdrech dda iawn i ddefnyddio'ch lleisiau i ddangos eich bod yn holi cwestiynau. Bravo!
Dyma fideo sy'n helpu chi i ymarfer yr ynganiad gywir ar gyfer y wyddor Ffrangeg - gyda chymorth Vincent la grenouille (y broga!) :-)
A gallwch ganu gyda'r ddwy fideo yma i wneud yn siwr bod popeth yn sticio yn y cof!
Gêm Blwyddyn 7 (Wythnos 2)
Dyma gêm i chi chwarae ar eiriau Ffrangeg sy'n cael eu defnyddio ym Mhrydain. Gobeithio y bydd yn eich helpu i weld eich bod yn barod yn gyfarwydd gyda neu yn defnyddio sawl gair Ffrangeg yn eich bywydau o ddydd-i-ddydd! Efallai bydd yn cymryd rhai eiliadau i lwytho...byddwch amyneddgar :-)
Les Phoniques
Ffonics yw'r cysylltiad rhwng sut mae gair yn cael ei sillafu a sut mae'n cael ei ddweud, sydd ddim bob amser yn debyg yn Ffrangeg! Byddwn yn edrych ar sawl ffonic gwahanol y flwyddyn yma ond dyma'r grwp cyntaf i chi. Os cliciwch ar y lluniau unigol, mi glywch yr ynganiad cywir, i'ch atgoffa! Cofiwch wneud y symudiadau hefyd! ;)
(Merci à Rachel Hawkes pour l’image et l'idée)
Les Choix - Drama Ffrangeg ar-lein
Dyma'r ddolen i'r ddrama 'Les Choix' i chi, Flwyddyn 7. Dilynwch yr hanes o un pennod i'r llall - mae pob un yn dechrau gyda cyflwyniad bandedessinée (cartŵn) i osod y sefyllfa, ac yna cewch y bennod ei hun, a gaiff ei ddilyn gan gêmau ac ymarferion bach i ymarfer yr iaith o'r bennod yn bellach! Gallwch droi is-deitlau Ffrangeg a/neu Cymraeg ymlaen ar bob pennod i'ch cynorthwyo os hoffech. Amusez-vous bien et bonnes vacances! :) Les Choix - Bienvenue à Marseille!
Homme de couleur - Jérôme Ruillier
Voici l'histoire qu'on a regardé en classe. C'est une histoire pour enfants basée sur le poème 'Cher frère blanc' de Léopold Sedar Senghor.
Je me décris - Gwaith llafar 7L
Dyma waith disgrifio mae dosbarth 7L wedi gwneud wythnos yma. Acenion hyfryd a disgrifiadau sy'n siwtio'r cymeriadau i'r dim, 7L! Mwynhewch eu gwylio!
Tu es comment? Gwaith 7L
Dyma fideo fer a wnaeth 7L yn esbonio sut bersonoliaethau sydd ganddynt. Fedrwch chi weithio mas sut rai ydyn nhw a sut rai NAD ydyn nhw?
JW Player goes here
Je me décris!
Dyma'r PwyntPwer o'r wers yn dangos i chi sut i ddisgrifio eich golwg chi yn ogystal â golwg pobl eraill. Cofiwch ofalu beth sy'n gallu mynd ar ôl y ferf ETRE (je suis / il est / elle est) a beth sy'n gallu mynd ar ôl y ferf AVOIR (j'ai / il a / elle a)!
Dyma ddolen i weld fideos o sgyrsiau byr mae dosbarth 7L wedi perfformio yn ddiweddar ar y pwnc anifeiliaid anwes. Cliciwch arno i gael eu gweld - mae croeso i chi adael sylwad iddynt! :)
Dyma ddolen i fynd â chi at set o ymarferion a fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu ystyr a sillafu y dechreuadau brawddegau sydd angen ar gyfer y prawf. Yn yr ymarferion, mae gennych gardiau fflach i ddechrau, yna cyfres o weithgareddau i'w hymarfer, amrywiaeth o brofion byr a dau gêm i'w chwarae. Mae'r 5 dechrau brawddegau wedi cynnwys, ac maent hefyd wedi cynnwys fel brawddegau llawn fel eich bod yn gallu gweld sut i'w cwblhau yn gywir. Cofiwch gydaJe n'ai pas denad ydym yn defnyddio un/une ar ei ôl.
Nodyn i'ch atgoffa chi, Blwyddyn 7, mai eich gwaith cartref yw creu caligram yn sôn am anifeiliaid anwes. Dyma'r camau sydd angen i chi ddilyn i greu caligram llwyddianus:
Tynnwch lun yn ysgafn gyda phensil ar bapur - dylai'r llun fod yn ymwneud ag anifeiliaid mewn rhyw ffordd (e.e. siap pysgodyn/neidr/gwyneb cath/asgwrn). Siapau syml sydd yn gweithio orau fel arfer.
Gyda feiro neu ffelt-tip, ysgrifennwch frawddegau yn ymwneud ag anifeiliaid anwes ar hyd holl linellau'r siap, fel bod eich siap yn cael ei greu allan o'r brawddegau!
Os nad ydych yn rhy sicr gyda'ch Ffrangeg, defnyddiwch frawddegau byrion.
Os ydych yn teimlo'n fwy hyderus gyda'ch Ffrangeg, ceisiwch ddefnyddio brawddegau hirach, mwy cymhleth.
Cofiwch edrych yn eich llyfr am iaith a all eich helpu - gallwch ail-ddefnyddio neu addasu unrhyw beth sydd yn eich llyfr!
Dyma ddolen sydd yn dangos rhai esiamplau i chi - maent yn Sbaeneg ond peidiwch a gadael i hynny eich poeni! Caligramau: Esiamplau
Devoirs (gwaith cartref) : Quizlet (Wythnos 3)
Dyma ddolen i chi ar gyfer ymarfer eich anifeiliaid, gan ganolbwyntio ar wybod sut i ddweud pob anifail yn Ffrangeg a sut i gael sgwrs fer amdanynt, yn ogystal â dysgu sut i sillafu popeth yn gywir. Os gliciwch ar y ddolen, fe welwch gardiau fflach, 3 gweithgaredd i'ch cynorthwyo i ddysgu (mae'r weithgaredd 'Speller' yn arbennig o dda) a 2 gêm bach i chi chwarae. Cofiwch edrych trwy'r cardiau fflach (mwy nag unwaith os oes angen) cyn dechrau fel eich bod yn gyfarwydd gyda'r iaith fydd yn cael ei ddefnyddio. Mwynhewch!
Dyma gân fach ddwl i chi os ydych chi eisiau ymarfer eich lliwiau yn bellach. Gallwch hefyd ddysgu brawddegau defnyddiol eraill, er enghraifft rhannau o'r corff, a dweud beth mae rhywun yn hoffi yfed!
On chante! Les mois (Wythnos 14)
Cofiwch ymarfer y gân 'Quelle est la date de ton anniversaire?' adref i wneud ymarfer pellach ar eich misoedd. :)
Les numéros (Wythnos 10)
Dyma ddolen i chi ar gyfer ymarfer eich rhifau, gan ganolbwyntio ar wybod sut i ddweud pob rhif yn Ffrangeg ac ar sut i'w sillafu yn gywir. Os gliciwch ar y ddolen, fe welwch gardiau fflach, 3 gweithgaredd i'ch cynorthwyo i ddysgu (mae'r weithgaredd 'Speller' yn arbennig o dda) a 2 gêm bach i chi chwarae. Cofiwch edrych trwy'r cardiau fflach (mwy nag unwaith os oes angen) cyn dechrau fel eich bod yn gyfarwydd gyda'r iaith fydd yn cael ei ddefnyddio. Mwynhewch!
Dyma'r rap rhifau 1-20 i chi sydd wedi gwneud rhifau yn yr ysgol gynradd er mwyn i chi adolygu cyn y wers wythnos nesaf! Os nad ydych wedi gwneud rhifau yn yr ysgol gynradd, peidiwch becso dim - edrychwch ar y fideo a ceisiwch weld faint fedrwch chi gofio erbyn iddo orffen! Byddwn yn dysgu/adolygu rhifau 1-20 yn y dosbarth wythnos nesaf. :-)
Devoirs! (Wythnos 7)
Dyma'r ddolen i'ch arwain at y safle wê sydd ei angen arnoch ar gyfer cwblhau’ch gwaith cartref. Cofiwch nodi’r prisiau gan ddefnyddio coma yn hytrach na phwynt ac i ddefnyddio € yn hytrach na ₤! (2,99€ nid ₤2.99) Devoirs
En classe (Wythnos 7)
Dyma ddolen i fynd â chi at dudalen a all eich cynorthwyo gyda’ch ynganu ar gyfer yr offer yn y dosbarth. Os ydych yn ansicr sut i ynganu (ddweud yn gywir) unrhyw eirfa, rhowch y lygoden dros yr eitem ac fe glywch lais yn ei ddweud yn uchel. Gwrandewch ac ymarferwch! Dans mon sac...
zondle - games to support learning
Adolygu - Yr arholiad ysgrifenedig
Dyma'r cyflwyniad edrychon ni arno yn ystod y wers. Cofiwch wneud pob ymdrech i ddysgu eich gwaith yn drylwyr!Adolygu - Aelodau'r teulu
Yma, fe gewch chi weld cardiau fflach i'ch cynorthwyo i ddysgu'r geirfa cywir ar gyfer aelodau'r teulu. Gallwch glicio i gael y Cymraeg a'r Ffrangeg yn dangos yr un pryd, neu wrth ddad-glicio'r botwm 'Both Sides', gallwch weld dim ond y Cymraeg neu dim ond y Ffrangeg sy'n eich galluogi i brofi eich hunan. Wrth glicio ar y botwm sain ar dop y cardiau fflach, gallwch hefyd glywed yr ynganiad (pronunciation) Ffrangeg cywir. Yn olaf, wrth glicio ar 'Choose a Study Mode' gallwch eu hadolygu mewn amrywiaeth o ddulliau eraill hefyd - ymchwiliwch i weld beth sydd well gennych! :)Adolygu - Cyfarchion a Chyflwyno'ch hunan
zondle - games to support learning
Adolygu - Misoedd a Dyddiau'r wythnos
zondle - games to support learning
Adolygu - Rhifau
zondle - games to support learning
Adolygu - J'ai ou Je suis?
Cofiwch bod y berfau Avoir ac Etre yn bwysig iawn yn Ffrangeg. Mae Avoir yn golygu 'bod gyda' / 'cael' (yn Saesneg, 'to have') ac mae Etre yn golygu 'bod' (neu yn Saesneg, 'to be'). Yn y gêm yma, meddyliwch am ba un o'r 3 dewis yw'r un synhwyrol i fynd gyda'r ferf bob tro - cofiwch bod J'ai yn golygu 'Mae gen i', ac mae Je suis yn golygu 'Rwyf yn'!zondle - games to support learning
Adolygu - Personoliaeth
zondle - games to support learning
Adolygu - Personoliaeth (Cytuno ansoddeiriau)
Dyma gêm i'ch cynorthwyo i adolygu'r rheolau ar gyfer ansoddeiriau Ffrangeg. Darllenwch yr enw ar ddechrau pob cwestiwn a chofiwch feddwl yn ofalus pa ffurf o'r ansoddair (m./f.) sydd yn eisiau. Os ydych yn cael yr ateb yn gywir, fe gewch reoli'r llong ofod a saethu'r asteroidau! Pob hwyl!zondle - games to support learning
Devoirs - 7E - Linguascope
Nodyn i'ch atgoffa o sut i ddarganfod y dudalen gywir ar Linguascope er mwyn adolygu a dysgu'r anifeiliaid anwes ar y cof.1. Ewch at www.linguascope.com
2. Mewngofnodwch (cofiwch nad oes angen 123 ar ddiwedd y gyfrinair mwyach).
3. Cliciwch ar 'Elementary' ac yna ar 'houlala'.
4. Dewiswch 'Galaxie Trois' ac yna 'Planète ANIMAUX'.
5. Gallwch wneud y 'Présentation' i'ch atgoffa o'r anifeiliaid os hoffech, ac yna clicio ar y 'Jeux' i chwarae gemau i ymarfer a dysgu'r geirfa.
Amusez-vous bien! :-)
Un petit quiz!
Dyma gwis bach Ffrangeg i chi yn holi o ba wledydd mae gwahanol anifeiliaid yn dod. Beth am gymryd y cwis a gweld pa mor dda yw eich gwybodaeth o gynefinau gwahanol anifeiliaid?Dans quel pays trouve-t-on cet animal?
C’est qui, ce beau panda?
Am ba anifail mae’r teitl uchod yn sôn tybed? Dwi’n siŵr eich bod yn medru gweld yr ateb yn hawdd! Beth am glicio ar y ddolen isod ac edrych ar yr erthygl sy’n cyd-fynd gyda’r teitl yma? Mae’n dod o safle newyddion ar gyfer disgyblion ysgol yn Ffrainc. Edrychwch trwy’r erthygl i weld os fedrwch chi ddarganfod yr atebion i’r cwestiynau o dan y llun. Mi fydd canmoliaeth i unrhyw un sy’n rhoi tro ar eu hateb. :)1jour 1 actu - C'est qui, ce beau panda?
Edrychwch yn gyntaf drwy’r erthygl gyfan:
1. Fedrwch chi ddarganfod o leiaf 5 gair yn yr erthygl sy’n hawdd i’w dyfalu am eu bod yn debyg iawn i’r Saesneg neu’r Gymraeg? Er enghraifft – la Chine = Tseina
Paragraff agoriadol (mewn print bras):
2. Beth yw enwau Tseiniaidd y ddau banda?
3. Ar ba ddyddiad wnaeth y ddau ohonynt gyrraedd Ffrainc?
Paragraff ‘Pourquoi en parle-t-on?’:
4. Beth yw eu hoedran?
5. Ym mha ardal o Ffrainc mae tref Loir-et-Cher, cartref newydd y pandas ?
6. Am ba mor hir mae’r llywodraeth Tseiniaidd wedi benthyg y pandas i Ffrainc ?
Paragraff ‘Quel rapport avec ces deux pandas?’:
7. Sawl panda sydd ar ôl yn Tseina?
8. Mae'r erthygl yn esbonio bod pandas yn drysor cenedlaethol i Tseina. Sut mae dweud ‘trysor cenedlaethol’ yn Ffrangeg?
Meddwl yn bellach...:
9. Os ydym yn galw rhywbeth yn ‘drysor cenedlaethol’, beth ydym ni’n feddwl wrth hynny?
10. Beth yw’n trysorau cenedlaethol yma yng Nghymru, yn eich barn chi?
Pob hwyl gyda’r chwilota, Blwyddyn 7!
Idiomau!
Idiom yw ffordd o ddweud rhywbeth nad yw'n cyfieithu'n llythrennol o un iaith i iaith arall. Esiampl yn Gymraeg fyddai 'Mae'n rhedeg gyda'i wynt yn ei ddwrn'. Nid yw 'He's running with the wind in his fist' yn gwneud unrhyw synnwyr yn Saesneg - byddai rhaid dweud 'He's running like the wind' yn lle. Dyma beth yw idiom, felly! Dyma ddolen i gyflwyniad am idiomau Ffrangeg - mae'r idiomau yma i gyd yn defnyddio 'AVOIR' o'u blaenau. :)Storybird: J'ai...
Devoirs 7E - Je me décris!
Dyma'r dudalen 'padlet' ar gyfer gadael eich post-its, 7E.Y dasg- Ysgrifennu paragraff sy'n disgrifio eich hunan mor fanwl â phosibl.
Allez-y! Rwy'n edrych ymlaen i ddarllen eich paragraffau! :o)
L'homme de vocabulaire :)
Dyma'r dyn geirfa i'ch cynorthwyo gyda syniadau ar gyfer dysgu eich geirfa ar gyfer y profion sillafu. Profwch y gwahanol dechnegau - pa un sy'n gweithio orau i chi tybed? Fedrwch chi wella ar eich marciau diweddar gan ddefnyddio techneg gwahanol i'r arfer?Les dialogues de 7E
Dyma ddolen i'ch arwain at eich gwaith sgyrsio diweddar blwyddyn 7 - acenion gwych ac ymdrech dda iawn i ddefnyddio'ch lleisiau i ddangos eich bod yn holi cwestiynau. Bravo!Les dialogues
Bonne Année de 7E :D
L'alphabet
Dyma fideo sy'n helpu chi i ymarfer yr ynganiad gywir ar gyfer y wyddor Ffrangeg - gyda chymorth Vincent la grenouille (y broga!) :-)A gallwch ganu gyda'r ddwy fideo yma i wneud yn siwr bod popeth yn sticio yn y cof!
Gêm Blwyddyn 7 (Wythnos 2)
Dyma gêm i chi chwarae ar eiriau Ffrangeg sy'n cael eu defnyddio ym Mhrydain. Gobeithio y bydd yn eich helpu i weld eich bod yn barod yn gyfarwydd gyda neu yn defnyddio sawl gair Ffrangeg yn eich bywydau o ddydd-i-ddydd! Efallai bydd yn cymryd rhai eiliadau i lwytho...byddwch amyneddgar :-)Les Phoniques
Ffonics yw'r cysylltiad rhwng sut mae gair yn cael ei sillafu a sut mae'n cael ei ddweud, sydd ddim bob amser yn debyg yn Ffrangeg! Byddwn yn edrych ar sawl ffonic gwahanol y flwyddyn yma ond dyma'r grwp cyntaf i chi. Os cliciwch ar y lluniau unigol, mi glywch yr ynganiad cywir, i'ch atgoffa! Cofiwch wneud y symudiadau hefyd! ;)(Merci à Rachel Hawkes pour l’image et l'idée)
Les Choix - Drama Ffrangeg ar-lein
Dyma'r ddolen i'r ddrama 'Les Choix' i chi, Flwyddyn 7. Dilynwch yr hanes o un pennod i'r llall - mae pob un yn dechrau gyda cyflwyniad bande dessinée (cartŵn) i osod y sefyllfa, ac yna cewch y bennod ei hun, a gaiff ei ddilyn gan gêmau ac ymarferion bach i ymarfer yr iaith o'r bennod yn bellach! Gallwch droi is-deitlau Ffrangeg a/neu Cymraeg ymlaen ar bob pennod i'ch cynorthwyo os hoffech. Amusez-vous bien et bonnes vacances! :)
Les Choix - Bienvenue à Marseille!
Homme de couleur - Jérôme Ruillier
Voici l'histoire qu'on a regardé en classe. C'est une histoire pour enfants basée sur le poème 'Cher frère blanc' de Léopold Sedar Senghor.Je me décris - Gwaith llafar 7L
Dyma waith disgrifio mae dosbarth 7L wedi gwneud wythnos yma. Acenion hyfryd a disgrifiadau sy'n siwtio'r cymeriadau i'r dim, 7L! Mwynhewch eu gwylio!Tu es comment? Gwaith 7L
Dyma fideo fer a wnaeth 7L yn esbonio sut bersonoliaethau sydd ganddynt. Fedrwch chi weithio mas sut rai ydyn nhw a sut rai NAD ydyn nhw?Je me décris!
Dyma'r PwyntPwer o'r wers yn dangos i chi sut i ddisgrifio eich golwg chi yn ogystal â golwg pobl eraill. Cofiwch ofalu beth sy'n gallu mynd ar ôl y ferf ETRE (je suis / il est / elle est) a beth sy'n gallu mynd ar ôl y ferf AVOIR (j'ai / il a / elle a)!Sgyrsiau 7L: As-tu un animal?
Dyma ddolen i weld fideos o sgyrsiau byr mae dosbarth 7L wedi perfformio yn ddiweddar ar y pwnc anifeiliaid anwes. Cliciwch arno i gael eu gweld - mae croeso i chi adael sylwad iddynt! :)
As-tu un animal?
Devoirs: Prawf Dechrau Brawddegau
Dyma ddolen i fynd â chi at set o ymarferion a fydd yn eich cynorthwyo i ddysgu ystyr a sillafu y dechreuadau brawddegau sydd angen ar gyfer y prawf. Yn yr ymarferion, mae gennych gardiau fflach i ddechrau, yna cyfres o weithgareddau i'w hymarfer, amrywiaeth o brofion byr a dau gêm i'w chwarae. Mae'r 5 dechrau brawddegau wedi cynnwys, ac maent hefyd wedi cynnwys fel brawddegau llawn fel eich bod yn gallu gweld sut i'w cwblhau yn gywir. Cofiwch gyda Je n'ai pas de nad ydym yn defnyddio un/une ar ei ôl.Quizlet: Prawf
Devoirs (Gwaith Cartref): Caligram
Nodyn i'ch atgoffa chi, Blwyddyn 7, mai eich gwaith cartref yw creu caligram yn sôn am anifeiliaid anwes. Dyma'r camau sydd angen i chi ddilyn i greu caligram llwyddianus:Dyma ddolen sydd yn dangos rhai esiamplau i chi - maent yn Sbaeneg ond peidiwch a gadael i hynny eich poeni! Caligramau: Esiamplau
Devoirs (gwaith cartref) : Quizlet (Wythnos 3)
Dyma ddolen i chi ar gyfer ymarfer eich anifeiliaid, gan ganolbwyntio ar wybod sut i ddweud pob anifail yn Ffrangeg a sut i gael sgwrs fer amdanynt, yn ogystal â dysgu sut i sillafu popeth yn gywir. Os gliciwch ar y ddolen, fe welwch gardiau fflach, 3 gweithgaredd i'ch cynorthwyo i ddysgu (mae'r weithgaredd 'Speller' yn arbennig o dda) a 2 gêm bach i chi chwarae. Cofiwch edrych trwy'r cardiau fflach (mwy nag unwaith os oes angen) cyn dechrau fel eich bod yn gyfarwydd gyda'r iaith fydd yn cael ei ddefnyddio. Mwynhewch!Quizlet - les animaux
On chante! Les couleurs (Tymor 2, Wythnos 1)
Dyma gân fach ddwl i chi os ydych chi eisiau ymarfer eich lliwiau yn bellach. Gallwch hefyd ddysgu brawddegau defnyddiol eraill, er enghraifft rhannau o'r corff, a dweud beth mae rhywun yn hoffi yfed!On chante! Les mois (Wythnos 14)
Cofiwch ymarfer y gân 'Quelle est la date de ton anniversaire?' adref i wneud ymarfer pellach ar eich misoedd. :)Les numéros (Wythnos 10)
Dyma ddolen i chi ar gyfer ymarfer eich rhifau, gan ganolbwyntio ar wybod sut i ddweud pob rhif yn Ffrangeg ac ar sut i'w sillafu yn gywir. Os gliciwch ar y ddolen, fe welwch gardiau fflach, 3 gweithgaredd i'ch cynorthwyo i ddysgu (mae'r weithgaredd 'Speller' yn arbennig o dda) a 2 gêm bach i chi chwarae. Cofiwch edrych trwy'r cardiau fflach (mwy nag unwaith os oes angen) cyn dechrau fel eich bod yn gyfarwydd gyda'r iaith fydd yn cael ei ddefnyddio. Mwynhewch!Quizlet: 1-20
Les numéros (Wythnos 9)
Dyma'r rap rhifau 1-20 i chi sydd wedi gwneud rhifau yn yr ysgol gynradd er mwyn i chi adolygu cyn y wers wythnos nesaf! Os nad ydych wedi gwneud rhifau yn yr ysgol gynradd, peidiwch becso dim - edrychwch ar y fideo a ceisiwch weld faint fedrwch chi gofio erbyn iddo orffen! Byddwn yn dysgu/adolygu rhifau 1-20 yn y dosbarth wythnos nesaf. :-)Devoirs! (Wythnos 7)
Dyma'r ddolen i'ch arwain at y safle wê sydd ei angen arnoch ar gyfer cwblhau’ch gwaith cartref. Cofiwch nodi’r prisiau gan ddefnyddio coma yn hytrach na phwynt ac i ddefnyddio € yn hytrach na ₤! (2,99€ nid ₤2.99)Devoirs
En classe (Wythnos 7)
Dyma ddolen i fynd â chi at dudalen a all eich cynorthwyo gyda’ch ynganu ar gyfer yr offer yn y dosbarth. Os ydych yn ansicr sut i ynganu (ddweud yn gywir) unrhyw eirfa, rhowch y lygoden dros yr eitem ac fe glywch lais yn ei ddweud yn uchel. Gwrandewch ac ymarferwch!Dans mon sac...